Cynllun Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd

Mae Cynllun Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd yn galluogi i unrhyw aelod o wasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus, addysg bellach, addysg uwch, neu GIG/gwasanaethau llyfrgell Iechyd Abertawe, Castell Nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Powys a Sir Benfro fenthyg* o unrhyw un o’r sefydliadau a restrir yn y ddolen isod.

I ymuno â‘n llyfrgelloedd bydd angen i chi lenwi ffurflen Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd, sydd ar gael o’ch prif lyfrgell gyhoeddus neu aelod o’ch llyfrgell neu drwy’r ddolen isod. Ar ôl ei chwblhau, gellir cyflwyno’r ffurflen wrth Ddesg Gymorth unrhyw un o’n llyfrgelloedd a bydd cyfrif benthyciwr llyfrgell yn cael ei greu ar eich cyfer.

*Sieciwch cyn ymweld ag unrhyw lyfrgell gan y gallai cyfyngiadau mynediad fod yn berthnasol yn ystod cyfnodau prysur.

Partneriaid Cynllun Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd

  • Gwasanaethau Llyfrgelloedd Cyhoeddus: Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Castell-Nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys ac Abertawe.
  • Llyfrgelloedd Addysg Bellach: Coleg Sir Gâr, Coleg Gwyr Abertawe, Grwp NPTC a Choleg Sir Benfro.
  • Llyfrgelloedd Addysg Uwch: Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant – Caerfyrddin, Llanbedr Pont Steffan ac Abertawe.
  • Llyfrgelloedd Iechyd: Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (Bronglais, Aberystwyth), BIP Hywel Dda (Glangwili, Caerfyrddin), BIP Hywel Dda (Hafan Dderwen, Caerfyrddin), BIP Hywel Dda (Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli), Bwrdd Dysgu Iechyd Powys (Bronllys), BIP Bae Abertawe (Cefn Coed), BIP Bae Abertawe (Treforus), BIP Bae Abertawe (Castell-Nedd Port Talbot), BIP Bae Abertawe (Singleton).

 

Library user checking out a book at library reception counter

Llyfrgelloedd Aura (Sir Fflint). Ginger Pixie Photography.

Cookie Settings